Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
 Llywodraeth Cymru

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol 
 a Thai
 —
 Local Government and Housing Committee
 Senedd Cymru
 Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN
 SeneddTai@senedd.cymru
 senedd.cymru/SeneddTai 
 0300 200 6565
 —
 Welsh Parliament
 Cardiff Bay, Cardiff, CF99 1SN
 SeneddHousing@senedd.wales 
 senedd.wales/SeneddHousing
 0300 200 6565
 

 

 

 


9 Rhagfyr 2021

Annwyl Weinidog

Cyfarfod gyda Chymdeithas y Landlordiaid Preswyl

Yn ddiweddar, fe wnes i gyfarfod â Ben Beadle, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl (“y Gymdeithas”) i drafod materion yn ymwneud â'r sector rhentu preifat yng Nghymru. Cytunais i godi rhai o'r materion y gwnaethom eu trafod gyda chi.

Grant Caledi i Denantiaid

Er bod y Gymdeithas yn cefnogi’r Grant Caledi i Denantiaid gan Lywodraeth Cymru, mynegodd Mr Beadle bryder ynghylch y nifer isel o denantiaid sy’n hawlio’r grant, ac awgrymodd y gallai hyrwyddo’r cynllun yn well, a chynyddu hygyrchedd y cynllun wella hyn. Pryder penodol a gafodd ei ddwyn i’m sylw yw bod yr unig wybodaeth sydd ar gael ar wefan Rhentu Doeth Cymru ar ffurf dogfen PDF, all fod yn anodd dod o hyd iddi. Awgrymodd y Gymdeithas y gallai tudalen we glir, sy’n hawdd ei chyrchu ar wefan Rhentu Doeth Cymru o fudd. At hynny, nodwyd ganddynt, er bod gwefan Llywodraeth Cymru yn cynnwys nifer o gyfeiriadau e-bost cyswllt ar gyfer awdurdodau lleol ynghylch sut i wneud cais am y Grant, nid yw'n cynnwys swyddogaeth i alluogi rhywun i gyflwyno cais. Awgrymwyd y gallai galluogi rhywun i wneud cais trwy wefan Llywodraeth Cymru, ac yna dewis yr awdurdod lleol perthnasol i'w anfon, wella hygyrchedd a chynyddu'r nifer sy'n hawlio’r grant.

Byddai'n ddefnyddiol pe gallech ddarparu ffigurau wedi'u diweddaru ar y nifer sy'n cael y Grant Caledi i Denantiaid ac ystyried dichonoldeb rhoi’r awgrymiadau a wnaed gan y Gymdeithas ar waith, er mwyn hyrwyddo'r cynllun a chynyddu'r nifer sy'n manteisio arno.

 

Datblygu arolwg tai ar gyfer Cymru

Mynegodd y Gymdeithas bryder hefyd bod angen gwell tystiolaeth ar gyfer datblygu polisïau sy’n gysylltiedig â’r sector rhentu preifat yng Nghymru, a galwodd am ddatblygu arolwg tai blynyddol ar gyfer Cymru, yn debyg i'r un a gynhaliwyd yn Lloegr. Awgrymodd y Gymdeithas y gallai Llywodraeth Cymru ddatblygu grŵp arbenigol o sefydliadau tai i lunio cynlluniau manwl ar gyfer y modd y dylai arolwg edrych, gan gynnwys yr hyn y dylai ei fesur a phryd y dylid ei gyhoeddi.

Rhowch amlinelliad o ba waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i wella'r sylfaen dystiolaeth ar dai – yn enwedig yn y sector rhentu preifat – a pha ystyriaeth rydych chi wedi'i rhoi i ddatblygu arolwg tai blynyddol i Gymru.

Cefnogaeth i rentwyr ar incwm isel

Mynegodd y Gymdeithas bryder hefyd ynghylch nifer y rhentwyr preifat yng Nghymru y mae eu dyfarniad Credyd Cynhwysol yn annigonol ar gyfer talu eu rhent. Fe wnaethant gyfeirio at ffigurau ar gyfer mis Mai 2021 sy’n dangos bod 67.5% o aelwydydd rhent preifat yng Nghymru a oedd yn dibynnu ar Gredyd Cynhwysol i helpu i dalu eu rhent, yn profi bwlch rhwng yr elfen cymorth costau tai a’r rhent a dalwyd ganddynt. Yn ôl Llywodraeth y DU, lle mae bwlch o'r fath yn bodoli, y diffyg ar gyfartaledd yw £80 y mis. Mae’r Gymdeithas o’r farn y bydd hyn yn debygol o waethygu o ganlyniad i'r penderfyniad i rewi'r Lwfans Tai Lleol mewn termau arian parod o Ebrill 2021 ymlaen, sef yr hyn a ddefnyddir i gyfrifo elfen cost tai’r Credyd Cynhwysol. Hoffai’r Gymdeithas i'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r Trysorlys ddadrewi’r Lwfans Tai Lleol ac adfer y gyfradd fel ei bod yn parhau i gyfateb i'r 30ain ganradd o renti'r farchnad, yn yr un modd ag y digwyddodd yn ystod y cyfyngiadau symud.

A fyddech chi cystal â rhoi sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i godi'r mater hwn gyda Llywodraeth y DU?

Yn gywir

A picture containing hanger  Description automatically generated

John Griffiths AS

Cadeirydd

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.